Walt Disney | |
---|---|
Ffugenw | Disney, Walter Elias |
Ganwyd | Walter Elias Disney 5 Rhagfyr 1901 Chicago |
Bu farw | 15 Rhagfyr 1966 o cwymp cylchredol Burbank |
Man preswyl | Dinas Kansas, Los Angeles, Marceline, Missouri, Chicago |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, animeiddiwr, cyflwynydd teledu, actor llais, ysgrifennwr, cynhyrchydd, arlunydd, dyfeisiwr, sgriptiwr, actor ffilm, darlunydd, cartwnydd dychanol, cyfarwyddwr, actor, cynhyrchydd |
Adnabyddus am | Mickey Mouse |
Arddull | ffilm deuluol, ffilm animeiddiedig |
Prif ddylanwad | Aesop's Film Fables |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol, plaid Ddemocrataidd |
Tad | Elias Disney |
Mam | Flora Call Disney |
Priod | Lillian Disney |
Plant | Diane Disney Miller |
Llinach | Disney family |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Uwch-addurn Anrhydeddus am Wasanaeth dros Weriniaeth Awstria, Gwobr Ymddiriedolwyr Grammy, Academy Award for Best Live Action Short Film, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Academy Award for Best Documentary (Short Subject), Academy Award for Best Documentary (Short Subject), Gwobr yr Academi am y Rhaglen Ddogfen Orau, Gwobr yr Academi am y Rhaglen Ddogfen Orau, Primetime Emmy Award for Best Producer for a Film Series, Medal Aur y Gyngres, Neuadd Enwogion California, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Winsor McCay Award, Gwobr Emmy, Y César Anrhydeddus, Audubon Medal, Irving G. Thalberg Memorial Award, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, American Choreography Awards |
llofnod | |
Cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilmiau Americanaidd oedd Walter Elias Disney (5 Rhagfyr 1901 - 15 Rhagfyr 1966).[1]
Mae'n adnabyddus fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol a dyfeisgar ym maes adloniant yn ystod yr 20g. Fel cyd-sylfaenydd (gyda'i frawd Roy O. Disney) y cwmni Walt Disney Productions, daeth Disney yn un o'r cynhyrchwyr ffilmiau enwocaf yn y byd. Mae gan y gorfforaeth a sefydlwyd ganddo, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel 'The Walt Disney Company', drosiant blynyddol o oddeutu $35 biliwn.
Gwnaeth Disney enw iddo'i hun hefyd fel un o ddatblygwyr mwyaf dyfeisgar y cyfrwng animeiddio ac fel cynllunydd parciau thema. Creodd Disney a'i staff rai o gymeriadau chwedlonol enwoca'r byd, gan gynnwys Mickey Mouse. Ei enw ef sydd ar barciau Disneyland a Walt Disney World Resort yn yr Unol Daleithiau, Japan, Ffrainc a Tsieina. Hoff gymeriad Disney o'r ffilmiau oedd Goofy.[2] Bu farw Disney o gancr yr ysgyfaint ar 15 Rhagfyr 1966, rhai blynyddoedd yn unig cyn i Walt Disney World agor yn Lake Buena Vista, Fflorida.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search